Meini Bywiol, Gobaith Bywiol
Mae'r cwrs hwn, sy'n seiliedig ar 1 Pedr 2, yn archwilio'r gymuned Gristnogol fel cerrig byw gyda Iesu fel y conglfaen. Hefyd ar gael yn Gymraeg.
Mae’r byd mewn argyfwng; mae’r Cread yn ochneidio. Clywn gri y Ddaear mewn difodiant rhywogaethau, yn yr argyfwng hinsawdd, mewn anghyfiawnder hiliol systemig, mewn tlodi materol, mewn gwrthdaro, ym mhandemig byd-eang Covid-19. Mewn amser fel hwn, beth sydd gan Gristnogion i’w gynnig?
’Rydym yn byw mewn byd toredig ac anghyfartal. ’Rydym yma ar gyfer amser fel hwn. Wedi’n galw i ymateb mewn gair a gweithred. Mae USPG yn partneru gydag eglwysi ar draws y byd yn eu cenhadaeth i drawsnewid bywydau trwy addysg, gofal iechyd a chyfiawnder i bawb. Cawn weld wrth inni symud trwy’r cwrs, fod partner eglwysi USPG yn cynnig inni fewn- olygon, gobaith ac anogaeth drwy’r ffyrdd y maent yn wynebu pynciau cyfiawnder ecolegol yn eu cyd-destun eu hunain: ac wrth wneud hynny, maent yn ein herio ni i ymateb. Ydym ni’n barod i dderbyn yr her?
Archwilio’r Beibl gydag eglwys y byd Mae ein cyrsiau astudio yn archwilio gwahanol agweddau ar fywyd a chenhadaeth Gristnogol o safbwynt yr eglwys fyd-eang. Drwy gynnig mewnwelediadau i sut mae ein partneriaid eglwysig yn rhoi eu ffydd ar waith, gobeithiwn y bydd y cyrsiau hyn yn eich ysbrydoli chi a’ch eglwys i ymgysylltu’n ddyfnach â chenhadaeth leol a byd-eang.
Caniatewch o leiaf 5 diwrnod gwaith i’ch archeb gael ei phrosesu a’i anfon.
Nodyn: Mae USPG ond yn anfon adnoddau i gefnogwyr yn y DU ac Iwerddon. Fodd bynnag, cysylltwch â ni os ydych y tu allan i’r rhanbarthau hyn ac os oes gennych ddiddordeb yn ein hadnoddau.
Mae'r cwrs hwn, sy'n seiliedig ar 1 Pedr 2, yn archwilio'r gymuned Gristnogol fel cerrig byw gyda Iesu fel y conglfaen. Hefyd ar gael yn Gymraeg.